Yr Adar Bach - Books@Press.co.uk

Search
Go to content

Main menu

Yr Adar Bach

Half Price Welsh Books

Seilir Yr Adar Bach ar stori draddodiadol Fwslimaidd sy’n archwilio’r byd rhyfeddol rydyn ni’n  byw ynddo.

Mae Muhammad a’i ffrindiau’n boeth a blinedig ond sylwant ar y planhigion a’r anifeiliaid o’u cwmpas ym mhobman. Dônt ar draws rhai adar bach hardd sy’n rhoi cynnig ar hedfan am y tro cyntaf…
Mae Muhammad mewn union bryd i atgoffa’i ffrindiau i ofalu am bopeth byw a chaiff yr adar bach eu hailuno unwaith eto gyda’u mam.

“Adnoddau hyfryd ar gyfer cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen.  Bydd plant wrth eu bodd gyda nhw.”

Yr Adar Bach - two versions of Yr Adar Bach on CD ROM (PDF books, MP3 Audio and WMV audio/visual) with English peinted book.
Yr Adar Bach - two versions of Yr Adar Bach on CD ROM (PDF books, MP3 Audio and WMV audio/visual) with English peinted book.
£ 12.99 Add


Mae’r CD-ROM amgaeëdig yn cynnwys fersiynau gweledol a chlywedol: un yn Saesneg a dau fersiwn yn Gymraeg.



Gellir defnyddio’r CD ROM ar fwrdd gwyn yn yr ystafell ddosbarth neu ar gyfrifiaduron personol. Mae fersiynau gwahanol sy’n caniatau i chi ddefnyddio sain yn unig, y gweledol yn unig neu gyfuniad o’r gweledol a’r clywedol gydag effeithiau sain.


Llyfr diwyg safonol yn Saesneg gyda CD ROM yn amgaeëdig sy’n cynnwys dau fersiwn yn Gymraeg


Hefyd ar gael.......

Mae’r pecyn adnoddau’n cynnwys set hardd o bypedau llaw/bysedd o fam aderyn ac adar bach, gyda nyth sy’n addasu’n fedrus i fod yn fag y gellir storio’r adar ynddo!

Ysgrifenwyd y ddau fersiwn o Yr Adar Bach ar wahanol lefelau ac mae hyn yn cynnig adnodd delfrydol ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ogystal ag ysgolion cyfrwng Saesneg sy’n hyrwyddo Datblygiad yr Iaith Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen a chwricwlwm Cyfnod Allweddol 2. Mae copi cefnogi athrawon Cymraeg/Saesneg hefyd yn gynwysiedig.

Back to content | Back to main menu